Pryd mae Prawf Argyfwng Cyhoeddus y DU yn digwydd?
Bydd prawf ledled y DU o'r system Rhybuddion Brys cyhoeddus sy'n achub bywydau yn cael ei gynnal am 3pm ddydd Sul 23 Ebrill 2023.
Beth sy'n digwydd:
Bydd prawf y system Rhybuddion Brys newydd yn gweld pobl yn derbyn Neges ar ffonau smart 4G a 5G, ynghyd â sain a dirgryniad am hyd at 10 eiliad.
Sut fydd yn edrych ac yn swnio:
Gwyliwch y fideo YouTube i weld sut olwg fydd ar y Rhybuddion Brys. Mae hwn yn brawf ledled y DU i alluogi negeseuon brys i gael eu darlledu i ardal ddiffiniedig pan fo perygl i fywyd, fel tanau gwyllt neu lifogydd difrifol.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Ar gyfer y prawf, nid oes angen i'r cyhoedd gymryd unrhyw gamau – bydd y sain a'r dirgryniad yn stopio'n awtomatig ar ôl deg eiliad. Y cyfan sydd angen i bobl ei wneud yw swipe y neges i ffwrdd neu glicio 'OK' ar sgrin gartref eu ffôn - yn union fel ar gyfer rhybudd neu hysbysiad 'batri isel' - a pharhau i ddefnyddio eu ffôn fel arfer.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Rybuddion Brys, gan gynnwys sut maen nhw'n edrych ac yn swnio Ynglŷn â Rhybuddion Brys – GOV.UK (www.gov.uk)



